Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Mawrth 2025
Amser:
09.30 -
11.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14855
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Andrew RT Davies AS (Cadeirydd) Hannah Blythyn AS Hefin David AS Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS |
|
Tystion: |
Dylan Morgan, National Farmers' Union (NFU) Cymru Gareth Parry, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) |
|
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Stokes (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) Madelaine Phillips (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol a chytunodd arno.
1.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeallusrwydd Artiffisial o ran Deepseek.
1.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i dynnu sylw at feysydd o’r gwaith sy’n croesi i gylch gwaith eu pwyllgor, yn ogystal â gwaith dilynol gyda Llywodraeth Cymru drwy ohebiaeth ysgrifenedig.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y Flaenraglen Waith ar gyfer hanner olaf tymor yr haf 2025 a thymor yr hydref 2025, a chytunwyd ar y meysydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor fwrw ymlaen â hwy.
3.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a thrafod eu barn ar y pwnc er mwyn cyfrannu at ymateb.
4.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r sesiwn gyhoeddus, gan nodi bod y cyhoedd wedi’u gwahardd o eitemau 1, 2 a 3 o’r cyfarfod hwn, fel y cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) yn ei gyfarfod blaenorol ar 6 Mawrth 2025.
4.2 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Andrew RT Davies AS a Samuel Kurtz AS fuddiant mewn perthynas ag eitem 6.
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dylan Morgan (Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU)), a Gareth Parry (Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)).
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 6.
9.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i'w gyhoeddi fel diweddariad ciplun sy’n gywir ar hyn o bryd.
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.